Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 114ZA(4) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 ac adran 67A(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2018 Rhif (Cy. )

TRETHI, CYMRU

Rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu bod darpariaethau amrywiol yn Neddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (“Deddf 1984”) a Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001 (“Deddf 2001”) i’w cymhwyso i ymchwiliadau i droseddau a gynhelir gan Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”).

Mae rheoliad 3(1) yn cyflwyno’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn, sy’n pennu’r darpariaethau yn Neddf 1984 sydd i’w cymhwyso i ymchwiliadau a gynhelir gan ACC, yn ddarostyngedig i addasiadau penodol. Y darpariaethau cymwys yn Neddf 1984 a gynhwysir yn yr Atodlen yw—

(a)     pŵer i wneud cais am warant a chael gwarant gan ynad heddwch i awdurdodi mynediad i fangre a’i chwilio (adran 8 o Ddeddf 1984);

(b)     pŵer i gael mynediad i ddeunydd eithriedig neu ddeunydd gweithdrefn arbennig (fel y diffinnir “excluded material” a “special procedure material” yn Rhan 2 o Ddeddf 1984), yn ddarostyngedig i gael gwarant gan farnwr yn unol â’r weithdrefn yn Atodlen 1 i Ddeddf 1984 (adran 9 o Ddeddf 1984);

(c)     rhagofalon amrywiol mewn perthynas â chais am warant a gweithredu chwiliadau (adrannau 15 ac 16 o Ddeddf 1984);

(d)     pŵer i ymafael mewn eitemau perthnasol y deuir o hyd iddynt yn ystod chwiliad (adran 19 o Ddeddf 1984);

(e)     estyn y pwerau ymafael i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth a gynhwysir ar ffurf electronig gael ei chyflwyno yn ystod chwiliad (adran 20 o Ddeddf 1984);

(f)      pŵer sy’n galluogi ACC i gopïo gwybodaeth yr ymafaelwyd ynddi yn ystod chwiliad, a hawliau cysylltiedig i berchnogion eiddo yr ymafaelir ynddo yn ystod chwiliad (adran 21 o Ddeddf 1984);

(g)     pŵer i gadw unrhyw beth yr ymafaelir ynddo yn ystod chwiliad (adran 22 o Ddeddf 1984);

(h)     gofyniad i ACC hysbysu person a gyfwelwyd mewn perthynas â throsedd yn ysgrifenedig pan benderfynir dod â’r ymchwiliad i ben (adran 60B o Ddeddf 1984); ac

(i)      gofyniad i ACC rhoi sylw i’r codau ymarfer a ddyroddir o dan adran 66 o Ddeddf 1984 pan fo’n cynnal ymchwiliad perthnasol.

Mae rheoliad 3(2) yn darparu bod y darpariaethau a gynhwysir yn Rhan 2 o Ddeddf 2001 (sydd, ymysg pethau eraill, yn darparu ar gyfer pwerau ymafael ychwanegol) hefyd yn gymwys pan fo ACC yn cynnal ymchwiliad perthnasol. 

Mae rheoliad 3(3) yn gwneud darpariaeth gyffredinol mewn perthynas â chymhwyso darpariaethau Deddf 1984 a Deddf 2001. Effaith y paragraff hwn yw darparu yn gyffredinol ar gyfer rhoi “WRA” yn lle “constable”, “police officer” a “the police” wrth gymhwyso darpariaethau Deddf 1984 a Deddf 2001.

Mae rheoliad 3(4) yn darparu y bydd darpariaethau Deddf 1984 nad ydynt yn cael eu pennu yn yr Atodlen yn gymwys i’r graddau y maent yn ymwneud â’r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen. Er enghraifft, mae’r diffiniad o “excluded material” yn adran 11 o Ddeddf 1984 i fod yn gymwys er mwyn diffinio “excluded material” mewn perthynas â chwiliad a gynhelir gan ACC drwy ddibynnu ar warant a ddyroddir o dan baragraff 12 o Atodlen 1 i Ddeddf 1984. 

Mae rheoliad 4 yn darparu y caiff person sy’n arfer swyddogaeth a roddir i ACC gan y Rheoliadau hyn ddefnyddio grym rhesymol, os yw hynny’n angenrheidiol, wrth arfer y swyddogaeth honno.

Mae rheoliad 5 yn darparu y caiff ACC chwilio person a ganfyddir mewn mangre sy’n destun chwiliad gan ACC, drwy ddibynnu ar warant a ddyroddir o dan adran 8 o Ddeddf 1984, neu baragraff 12 o Atodlen 1 iddi, ar yr amod bod gan ACC achos rhesymol i gredu bod y person yn meddu ar ddeunydd sy’n debygol o fod o werth sylweddol i’r ymchwiliad.

Mae rheoliad 6 yn addasu adran 16(3A) a (3B) o Ddeddf 1984 i’r graddau na chaiff person fynd i fangre na chwilio mangre nad yw wedi ei phennu mewn gwarant pob mangre, na mynd i fangre na chwilio mangre ar ail achlysur nac ar achlysur dilynol, onid yw’r person hwnnw wedi ei awdurdodi yn ysgrifenedig gan berson sydd ar Radd 7 yn y gwasanaeth sifil (neu radd gyfatebol) o leiaf.

Mae rheoliad 7 yn addasu adran 77(3) o Ddeddf 1984, sy’n gwneud darpariaeth mewn perthynas ag ymdrin â chyfaddefiadau gan berson sydd ag anabledd dysgu. Mae’r addasiad a wneir gan reoliad 7 yn sicrhau na chaiff “independent person” fod yn berson sy’n arfer swyddogaeth a roddir i ACC gan y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 8 yn darparu na chaiff y swyddogaethau a roddir i ACC gan y Rheoliadau hyn ond cael eu harfer gan berson sydd wedi ei awdurdodi yn ysgrifenedig gan ACC i gynnal ymchwiliadau perthnasol. 

 Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

 


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 114ZA(4) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 ac adran 67A(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

2018 Rhif (Cy. )

TRETHI, CYMRU

Rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                             1 Ebrill 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 114ZA(1) a (2) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984([1]) ac adran 67A(1) a (2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001([2]).

Yn unol ag adran 114ZA(4) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 ac adran 67A(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “ACC” (“WRA”) yw Awdurdod Cyllid Cymru;

ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984;

ystyr “Deddf 2001” (“the 2001 Act”) yw Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001;

ystyr “ymchwiliad perthnasol” (“relevant investigation”) yw ymchwiliad troseddol sy’n ymwneud â mater y mae gan ACC swyddogaethau mewn perthynas ag ef.

Cymhwyso Deddf 1984 a Deddf 2001

3.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheoliadau 4 i 8, mae darpariaethau Deddf 1984 a gynhwysir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn (“y swyddogaethau PACE cymwys”) yn gymwys i ymchwiliadau perthnasol a gynhelir gan ACC.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheoliadau 4 i 8, pan fo ACC yn arfer unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau PACE cymwys, mae’r darpariaethau a gynhwysir yn Rhan 2 o Ddeddf 2001 yn gymwys i ymchwiliadau perthnasol a gynhelir gan ACC.

(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 6, mae darpariaethau Deddf 1984 a Deddf 2001 a gymhwysir gan y Rheoliadau hyn yn cael effaith fel pe bai cyfeiriadau at “WRA” yn cael eu rhoi yn lle cyfeiriadau at “constable”, “police officer” a “the police” (sut bynnag y’u mynegir), ac mae’r darpariaethau hynny i’w dehongli yn unol â hynny.

(4) Mae darpariaethau eraill Deddf 1984, i’r graddau y maent yn ymwneud â’r swyddogaethau PACE cymwys, yn gymwys i ymchwiliadau perthnasol a gynhelir gan ACC.

Defnyddio grym rhesymol

4. Caiff person sy’n arfer swyddogaeth a roddir i ACC gan y Rheoliadau hyn ddefnyddio grym rhesymol, os yw hynny’n angenrheidiol, wrth arfer y swyddogaeth honno.

Chwilio personau

5. Caiff ACC chwilio person—

(a)     pan ganfyddir y person mewn mangre sy’n cael ei chwilio gan ACC drwy ddibynnu ar warant a ddyroddwyd o dan adran 8 o Ddeddf 1984, neu baragraff 12 o Atodlen 1 iddi; a

(b)     pan fo gan ACC achos rhesymol i gredu bod y person hwnnw yn meddu ar ddeunydd sy’n debygol o fod o werth sylweddol (pa un ai ar ei ben ei hun neu ynghyd â deunydd arall) i ymchwiliad perthnasol.

Addasu adran 16 o Ddeddf 1984 (gweithredu gwarantau)

6. Mae adran 16 o Ddeddf 1984([3]) (gweithredu gwarantau) wedi ei haddasu fel a ganlyn—

(a)     yn lle is-adran (3A) rhodder—

(3A) If the warrant is an all premises warrant, no premises which are not specified in it may be entered or searched by a person exercising WRA functions unless that person has been authorised in writing by another person exercising WRA functions of at least Grade 7 (or equivalent).;

(b)     yn lle is-adran (3B) rhodder—

(3B) No premises may be entered or searched by a person exercising WRA functions for the second or any subsequent time under a warrant which authorises multiple entries unless that person has been authorised in writing by another person exercising WRA functions of at least Grade 7 (or equivalent).

Addasu adran 77(3) o Ddeddf 1984 (diffiniad o “independent person”)

7. Mae adran 77(3) o Ddeddf 1984([4]) (diffiniad o “independent person”) wedi ei haddasu i’r graddau bod y diffiniad o “independent person” yn cynnwys person sy’n arfer swyddogaeth a roddir i ACC gan y Rheoliadau hyn.

Awdurdodiad

8. Nid yw’r swyddogaethau a roddir i ACC gan y Rheoliadau hyn ond yn arferadwy gan bersonau sydd ag awdurdodiad ysgrifenedig gan ACC i gynnal ymchwiliadau perthnasol. 

 

 

 

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad

                   YR ATODLEN      Rheoliad 3

Y darpariaethau cymwys yn Neddf 1984

(a)     adran 8 (pŵer ynad heddwch i awdurdodi mynediad i fangre a’i chwilio)([5]);

(b)     adran 9 (darpariaethau arbennig ynglŷn â mynediad)([6]) ac Atodlen 1 (gweithdrefn arbennig)([7]);

(c)     adran 15 (gwarantau chwilio – rhagofalon)([8]);

(d)     adran 16 (gweithredu gwarantau) yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn rheoliad 6;

(e)     adran 19 (pŵer cyffredinol i ymafael etc.)([9]);

(f)      adran 20 (estyn pwerau i ymafael i wybodaeth gyfrifiadurol)([10]);

(g)     adran 21 (mynediad a chopïo)([11]);

(h)     adran 22(1) i (4) a (7) (cadw)([12]);

(i)      adran 60B (hysbysu am benderfyniad i beidio ag erlyn person a gyfwelwyd)([13]);

(j)      adran 66 (codau ymarfer)([14]);

(k)     adran 67 (codau ymarfer – atodol)([15]);

(l)      adran 77 (ymdrin â chyfaddefiadau gan bersonau sydd ag anabledd dysgu) yn ddarostyngedig i’r addasiad yn rheoliad 7.



([1])           1984 p. 60. Mewnosodwyd adran 114ZA gan adran 185(1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6).

([2])           2001 p. 16. Mewnosodwyd adran 67A gan adran 185(2) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. 

([3])           Mewnosodwyd adran 16(3A) a (3B) gan adrannau 113(9)(a) a 114(8)(b) o Ddeddf Troseddau Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15). 

([4])           Diwygiwyd adran 77 gan baragraff 48 o Ran 4 o Atodlen 36 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44). Mae diwygiad arall i’r adran hon ond nid yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([5])           Diwygiwyd adran 8 gan adrannau 113(3), (4) a 114(2) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005, a pharagraff 43(3) o Ran 3 o Atodlen 7 iddi, ac adran 86 o Ddeddf Cyllid 2007 (p. 11). Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([6])           Diwygiwyd adran 9 gan Ddeddf Llysoedd 2003 (p. 39). Mae diwygiad arall i’r adran hon ond nid yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([7])           Diwygiwyd Atodlen 1 gan baragraff 14 o Ran 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 2001; paragraff 6 o Atodlen 4 i Ddeddf Llysoedd 2003; adran 113(10) i (14) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 a pharagraff 43(13) o Ran 3 o Atodlen 7 iddi; ac adran 82(3) o Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20). Mae diwygiad arall i’r adran hon ond nid yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([8])           Diwygiwyd adran 15 gan adran 113(6) i (8) a 114(4) i (7) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005, a pharagraff 1 o Ran 2 o Atodlen 17 iddi, ac erthygl 7 o Orchymyn Deddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (Diwygio) 2005 (O.S. 2005/3496).

([9])           Diwygiwyd adran 19 gan baragraff 13(1) a (2)(a) o Ran 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 2001.

([10])         Diwygiwyd adran 20 gan baragraff 13(1) a (2)(a) o Ran 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 2001.

([11])         Diwygiwyd adran 21 gan baragraffau 1 a 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003.

([12])         Mewnosodwyd adran 22(7) gan baragraffau 1 a 4 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003.

([13])         Mewnosodwyd adran 60B gan adran 77 o Ddeddf Plismona a Throsedd 2017 (p. 3).

([14])         Diwygiwyd adran 66 gan adran 57(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 (p. 43). Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([15])         Diwygiwyd adran 67 gan Ran 1 o Atodlen 37 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003. Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.